Summary
We’re looking for a Fundraising Manager to join us in Wales, to help shape and achieve our ambitious vision for fundraising. As a charity, the National Trust relies heavily on the income we generate through our various fundraising activities and channels. You'll have a proven track record in securing funds from a range of sources including major donors and charitable trusts.
This is a permanent role for 30hrs per week. You’ll be based at one of our regional offices in Wales and we support hybrid working. We can discuss this further at interview.
Please include a cover letter and CV with your application.?
Internally, you will be known as Philanthropy Consultant.
Rydym yn chwilio am Reolwr Codi Arian i ymuno â ni yng Nghymru, i helpu i lunio a chyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer codi arian. Fel elusen, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dibynnu'n helaeth ar yr incwm rydym yn ei gynhyrchu drwy ein gweithgareddau a'n sianeli codi arian amrywiol. Bydd gennych hanes profedig o sicrhau arian o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys rhoddwyr mawr ac ymddiriedolaethau elusennol.
Mae hon yn swydd barhaol am 30 awr yr wythnos. Byddwch wedi'ch lleoli yn un o'n swyddfeydd rhanbarthol yng Nghymru ac rydym yn cefnogi gweithio hybrid. Gallwn drafod hyn ymhellach yn y cyfweliad.
Dylech gynnwys llythyr eglurhaol a CV gyda'ch cais.?
Yn fewnol, fe'ch gelwir yn Ymgynghorydd Dyngarwch.
What it's like to work hereYou’ll be part of the Trust’s internal consultancy: a flexible resource of specialist skills and expertise. As one of a multidisciplinary team of experts, including curators, fundraisers, building surveyors and project managers, you’ll be working with others to help make things happen.?
You’ll have a flair for building and strengthening special relationships with existing potential donors and have had success in working with Trusts and Foundations. Experienced in developing and delivering large fundraising appeals and campaign, you’ll have a gift for inspiring your colleagues to ‘think like fundraisers’, unlocking enthusiasm, networks and innovative opportunities. We have an ambitious fundraising vision and exciting new projects on the horizon - we want you to be part of shaping them.
Sut brofiad yw gweithio yma?
Byddwch yn rhan o ymgynghoriaeth fewnol yr Ymddiriedolaeth: adnodd hyblyg o sgiliau arbenigol. Fel un o dîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr, gan gynnwys curaduron, codwyr arian, syrfewyr adeiladu a rheolwyr prosiect, byddwch yn gweithio gydag eraill i wneud i bethau ddigwydd.?
Byddwch yn ddawnus wrth feithrin a chryfhau cysylltiadau arbennig gyda darpar roddwyr presennol ac wedi cael llwyddiant wrth weithio gydag Ymddiriedolaethau a Sefydliadau. Yn brofiadol mewn datblygu a chyflawni ymgyrchoedd codi arian mawr, byddwch yn fedrus wrth ysbrydoli eich cydweithwyr i ‘feddwl fel codwyr arian’, gan ddatgloi brwdfrydedd, rhwydweithiau a chyfleoedd arloesol. Mae gennym weledigaeth codi arian uchelgeisiol a phrosiectau newydd cyffrous ar y gorwel - rydym am i chi fod yn rhan o’u llunio.
We’re looking for a dynamic, highly experienced fundraiser to join our Wales Growing Support Consultancy team. As one of our fundraising experts in the region you will help some of our most inspiring properties by developing and delivering ambitious fundraising plans for major projects, growing individual giving and securing funding from charitable trusts.
You’ll be working alongside others responsible for raising funds, a variety of consultants, colleagues who manage Trust places and their teams who work on site. You’ll be sharing your knowledge and expertise, supporting others to develop and deepen their understanding.
You'll help some of the Trust’s best-loved places to reach stretching targets through a range of fundraising initiatives. You'll be responsible for developing relationships with new trusts and foundations, and with high-value supporters, talking to them about all aspects of the Trust’s work. You’ll be embedded in project teams, working with specialists from across the Trust.
You'll expand philanthropic giving to an inspiring cause, and you’ll support and develop new fundraising initiatives.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Rydym yn chwilio am godwr arian hynod brofiadol i ymuno â’n tîm Ymgynghoriaeth Datblygu Cefnogaeth Cymru. Fel un o’n harbenigwyr codi arian yn y rhanbarth byddwch yn helpu rhai o’n heiddo mwyaf ysbrydoledig drwy ddatblygu a chyflwyno cynlluniau codi arian uchelgeisiol ar gyfer prosiectau mawr, cynyddu rhoddion unigol a sicrhau cyllid gan ymddiriedolaethau elusennol.
Byddwch yn gweithio ar y cyd ag eraill sy’n gyfrifol am godi arian, amrywiaeth o ymgynghorwyr, cyd-weithwyr sy’n rheoli lleoedd yr Ymddiriedolaeth a’u timau sy’n gweithio ar y safle. Byddwch yn rhannu’ch gwybodaeth a'ch arbenigedd, gan gefnogi eraill i ddatblygu a chryfhau eu dealltwriaeth.
Byddwch yn helpu rhai o leoedd mwyaf poblogaidd yr Ymddiriedolaeth i gyrraedd targedau ymestynnol trwy amrywiaeth o fentrau codi arian. Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu cysylltiadau gydag ymddiriedolaethau a sefydliadau, a chefnogwyr gwerth-uchel newydd, gan drafod holl agweddau ar waith yr Ymddiriedolaeth gyda nhw. Byddwch yn rhan o brosiectau tîm, gan weithio gydag arbenigwyr o ar draws yr Ymddiriedolaeth.
Byddwch yn ehangu rhoddi dyngarol i achos sy’n ysbrydoli, a byddwch yn cefnogi ac yn datblygu mentrau codi arian newydd.
National Trust | £35,599 per annum | Coedkernew |